Helpwch i gefnogi tirwedd a llwybrau troed Arfordir Sir Benfro, sydd wedi ennill gwobrau, gyda’r cynllun Noddi Iet newydd

5th June 2018

Os ydych chi’n mwynhau cerdded ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a hoffech gefnogi’r gwaith caled a gaiff ei wneud i gynnal y dirwedd hon, sydd heb ei hail, gallwch helpu nawr drwy gyfrannu at y cynllun Noddi Iet newydd.

Bydd yr incwm a gaiff ei greu gan y cynllun, lle bydd placiau personol yn cael eu gosod ar ietiau ar hyd Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Penfro, yn cefnogi gwaith Awdurdod y Parc Cenedlaethol i gynnal a chadw’r Llwybr 186 milltir o hyd a’r Parc Cenedlaethol ehangach.

ywedodd Rheolwr Codi Arian Allanol Awdurdod y Parc, Nichola Couceiro: “Bydd plac personol ar bob iet a gaiff ei noddi, a bydd gennych chi’r opsiwn o noddi iet er cof am rywun oedd yn bwysig i chi, fel rhodd i rywun arbennig, drwy eich cwmni neu hyd yn oed yn eich enw chi’ch hun. 

“Mae dros 100 o ietiau ar gael i’w noddi ar hyd Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Penfro, sy’n golygu bod digonedd o leoliadau posib i ddewis ohonynt”.

Mae pob iet yn costio £600 i’w noddi, a bydd y nawdd yn para am gyfnod o ddeng mlynedd.  Gallwch dalu drwy siec neu gerdyn debyd/credyd, drwy ffonio Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar 01646 624800.

Mae'r ffurflenni ar gael o wefan Awdurdod y Parc yn www.arfordirpenfro.cymru/noddiiet.

Dylech anfon y ffurflenni wedi’u llenwi i nicholac@arfordirpenfro.org.uk neu yn y post at: Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Noddi Iet, ewch i’r wefan uchod neu ffoniwch 01646 624808.

More news from the Trail »

Share this story:

Help conserve and enhance the Pembrokeshire Coast’s award-winning footpaths and  - Pembrokeshire Coast National Park Authority