Am ei fod yn un o’r Llwybrau Cenedlaethol, mae digonedd o arwyddion ar hyd Llwybr Glyndŵr. Fe welwch symbol adnabyddus y fesen ar gamfeydd, gatiau ac arwyddbyst. Dyma’r symbol a ddefnyddir gan holl Lwybrau Cenedlaethol Cymru a Lloegr. Hefyd fe welwch ddraig, sef y logo ar gyfer Llwybr Glyndŵr, a ddatblygwyd gan Gyngor Sir Powys.
Byddwch hefyd yn gweld y symbolau canlynol ar y Llwybr neu ar lwybrau sy’n cysylltu ag ef, y gall cerbydau, marchogion, beicwyr neu gerddwyr eu defnyddio fel y dangosir.
Defnyddir mesen, symbol Llwybrau Cenedlaethol Prydain, i lywio’ch taith trwy ddangos y llwybr mewn amrywiaeth o ffyrdd. Fe’i defnyddir ar y cyd gyda saethau lliw neu’r geiriau ‘llwybr troed’, ‘llwybr ceffylau’ neu ‘gilffordd’ i ddangos pwy all ddefnyddio hawl tramwy penodol.
Mae’r saeth felen yn dangos llwybr i’w ddefnyddio gan gerddwyr. Mae’r geiriau ‘llwybr troed’ a/neu saeth felen yn dangos llwybr i’w ddefnyddio gan gerddwyr yn unig, a lle mae’n anghyfreithlon beicio, marchogaeth ceffyl neu yrru cerbyd heb ganiatâd y tirfeddiannwr.
Mae’r saeth las yn dangos llwybr y gall cerddwyr, marchogion a beicwyr ei ddefnyddio. Mae’r geiriau ‘llwybr ceffylau’ a/neu saeth las yn dangos llwybr y gall cerddwyr, marchogion a beicwyr ei ddefnyddio, ond lle mae’n anghyfreithlon gyrru unrhyw gerbyd heb ganiatâd y tirfeddiannwr.
Mae’r saeth borffor yn dangos llwybr y gall cerddwyr, marchogion, beicwyr a gyrwyr car a cheffyl ei ddefnyddio. Mae’r term 'cilffordd gyfyngedig’ a/neu saeth borffor yn dangos llwybr y gall cerddwyr, marchogion, beicwyr a gyrwyr car a cheffyl ei ddefnyddio, ond lle mae’n anghyfreithlon gyrru unrhyw gerbyd modur heb ganiatâd y tirfeddiannwr.
Mae’r saeth goch yn dangos hawl tramwy y gall cerddwyr, marchogion, beicwyr a modurwyr ei ddefnyddio’n gyfreithlon. Mae’r gair ‘cilffordd’ a/neu saeth goch yn dangos hawl tramwy y gall cerddwyr, marchogion, beicwyr a modurwyr ei ddefnyddio’n gyfreithlon.