Trafnidiaeth Gyhoeddus

Mae gan Sir Benfro bum gwasanaeth bws ar hyd y glannau sy’n rhedeg 7 diwrnod yr wythnos trwy gydol yr haf. Mae’r bysiau’n gwasanaethu’r rhan fwyf o 186 o filltiroedd Llwybr yr Arfordir -

  • Mae ‘Roced Poppit' yn dilyn yr arfordir rhwng Abergwaun ac Aberteifi, gan aros ym Mhwllgwaelod, Dinas, Trefdraeth, Trewyddel, Traeth Poppit a Llandudoch.
  • Mae ‘Gwennol Strumble’ yn rhedeg rhwng Abergwaun a Thyddewi, gan aros yng Ngwdig, Pontiago, Pen Caer, Trefaser, Sain Niclas, Tregwynt, Mathri, Abercastell, Tre-fin, Llanrhian, Porthgain, Abereiddi a Thyddewi.
  • Mae ‘Gwennol Pâl’ yn teithio ar hyd yr arfordir rhwng Tyddewi ac Aberdaugleddau, gan aros yn Solfach, Niwgwl, Aberllydan, Yr Aber Bach, Marloes, Dale, Sain Ismael a Herbrandston.
  • Mae ‘Criwser yr Arfordir’ yn tywys teithwyr o amgylch Penrhyn Angle, gan aros yn Noc Penfro, Penfro, Angle, Bosherston ac Ystangbwll.
  • Mae'r ‘Gwibiwr Celtaidd’ yn rhedeg rhwng Tyddewi, Porth Clais, Sain Justinian a’r Porth Mawr

I gael amserlenni a mwy o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Sir Penfro .

 

Map Rhyngweithiol

Map Rhyngweithiol
Cynllunio’ch ymweliad defnyddio ein Map Rhyngweithiol. Ble i aros, diwrnodau gwych allan a digonedd i’w wneud!