Disgrifiadau o'r llwybrau

Llwybr Cenedlaethol 135 o filltiroedd (217km) o hyd yw Llwybr Glyndŵr, sy’n crwydro trwy rostir agored, ffermdir bryniog, coetiroedd a choedwigoedd y Canolbarth.
 
Trefyclo i Langynllo – 6.5 milltir (10.5km) 

Mae Trefyclo’n dod o “Tref-y-Clawdd”, sef y dref yn ymyl Clawdd Offa. Mae dau Lwybr Cenedlaethol – Llwybr Glyndŵr a Llwybr Clawdd Offa – yn cyfarfod yma. Mae Llwybr Glyndŵr yn dechrau dringo ar unwaith i fyny stryd â chobls o dŵr y cloc yng nghanol y dref. Mae’n ymddolennu’n rhwydd allan o Drefyclo ac yna’n dringo trwy diroedd pori tawel Sir Faesyfed. Mae’r rhan hon yn ymdroelli i lawr trwy’r coed i gyrraedd pentref tawel Llangynllo ac yn gorffen yn ymyl y gofeb ryfel. Os cynlluniwch y daith yn dda gallwch ddal trên yn ôl i Drefyclo o’r orsaf filltir o’r pentref.

Llangynllo i Felindre – 9.3 milltir (15km)

Mae’r Llwybr yn mynd â chi i fyny trwy ffermdir i rostir gwyllt Beacon Hill – un o’r rhannau mwyaf agored a deniadol o’r llwybr. Yn hwyr yn yr haf mae’r grug yn troi’r dirwedd yn borffor cyn belled ag y gallwch weld. Yn raddol mae’r bryniau a’r rhosydd yn troi’n ffermdir eto wrth i chi ddisgyn i Felindre.

Felindre i Lanbadarn Fynydd – 7.5 milltir (12km)

Rydych chi’n gadael Felindre trwy gaeau glaswelltog ac yn ddiweddarach yn cerdded ar hyd lôn dawel yn y wlad. Yna i fyny â chi dros y porfeydd uchel unig heibio i gloddiau hynafol Castell y Blaidd ac yna i lawr ar hyd llethr rhwydd i Lanbadarn Fynydd.

Llanbadarn Fynydd i Abaty Cwm Hir – 8.3 milltir (13km)

O Lanbadarn mae’r llwybr yn dringo’n gyflym i’r rhostir agored eto, gan roi golygfeydd pell godidog i’r dwyrain a’r gorllewin. Ar ôl i chi fynd heibio i’r piler triongli ar Ysgwd Ffordd ar 440 metr o uchder, rydych chi’n disgyn yr holl ffordd i’r lôn hir sy’n mynd â chi i Abaty Cwm Hir.

Abaty Cwm Hir i Flaentrinant – 6.8 milltir (11km)

Daw enw Abaty Cwm Hir o abaty Sistersaidd a sefydlwyd yn 1143. Ychydig sydd ar ôl ohono heddiw, ond mae gan y pentref eglwys ddeniadol iawn sy’n agored bob amser. Mae’r Llwybr yn mynd â chi heibio’r eglwys ar hyd ceuffordd werdd, gan ddringo’n raddol i fyny ac i lawr trwy goedwigaeth a chaeau. Mae’r rhan hon yn dod i ben ym Mlaentrinant ond nid oes pentref na llety gwely a brecwast yma felly mae’n well cerdded ymlaen i Lanidloes.

Blaentrinant i Lanidloes – 8.3 milltir (13.5km)

O Flaentrinant i Lanidloes mae’r Llwybr yn mynd igam-ogam trwy gefn gwlad gyda’r mwyaf hardd a bryniog ar y llwybr. Fe welwch fferm wynt yn uchel ar y bryniau uwch eich pen wrth i chi ddisgyn ar hyd llethr serth i waelodion cymoedd gwlyb yn llawn hen goetiroedd. Cewch hoe haeddiannol pan gyrhaeddwch dref fywiog Llanidloes sydd â llawer o dafarnau a chaffis i’ch gwasanaethu.

Llanidloes i Afon Biga – 9 milltir (14.3km)

Mae’r Llwybr yn dechrau yn ymyl yr hen Neuadd Farchnad hardd yng nghanol Llanidloes. Mae’n croesi afon Hafren ac yna’n codi tuag at argae trawiadol Clywedog ac adfeilion hynod mwynglawdd Bryntail. Yn fuan wedyn rydych chi’n cyrraedd glannau Llyn Clywedog ac yn ddiweddarach yn dringo’n uchel uwchben y gronfa ddŵr ar y ffordd i Afon Biga. Mae’r safle picnic yma’n lle hyfryd i aros i badlo yn y nant.

Afon Biga i Aberhosan – 9.3 milltir (14.7km)

Ar y rhan hon byddwch yn cerdded i fyny i’r hen ffordd Rufeinig uwchben Dylife. Gwyliwch am olion gwyrdd caer fechan wrth i chi fynd ar hyd y llwybr a ddefnyddiwyd gan filwyr Rhufeinig bron dwy fil o flynyddoedd yn ôl. Yn fuan wedyn byddwch yn mynd i lawr i geunant trawiadol afon Clywedog ac yna byddwch yn cerdded dros y rhostir o gwmpas Glaslyn. Mae Foel Fadian (564 metr) yn ymddangos uwchben y trac ac mae’n werth chweil gadael y llwybr a mynd i’r piler triongli i weld y golygfeydd ysblennydd i bob cyfeiriad o’r copa. Eto nid oes unrhyw lety yn Aberhosan felly cynlluniwch eich taith fel ei bod yn gorffen yn un o’r lletyau gwely a brecwast ar y rhan flaenorol neu’r rhan nesaf.

Aberhosan i Fachynlleth – 9.5 milltir (15.3km)

Mae llwybr serth o’ch blaen wrth i chi gerdded ar hyd lonydd tawel ac yna trac fferm i fyny tua Chefn Modfedd. Yna rydych chi’n cerdded trwy goedwigaeth tuag at drac gwyrdd yn uchel uwchben Cwm Cemrhiw. Mae hwn yn mynd â chi i ran hir trwy goed wedi’u cwympo a thir comin yn uchel uwchben Machynlleth a bydd yn dod â chi i lawr i’r dref ar hyd y ‘Grisiau Rhufeinig’.  Cafodd Owain Glyndŵr ei goroni’n Dywysog Cymru a sefydlodd ei senedd yma yn 1404. Tref fywiog a difyr yw Machynlleth, yn enwedig ar ddiwrnod marchnad ar ddydd Mercher. 

Machynlleth i Lantwymyn – 8.7 milltir (14.3km)

Rydych chi’n ailgychwyn o Ganolfan Owain Glyndŵr ac yn cerdded ar hyd y ffordd dros y cwrs golff i’r Bontfaen ac yn fuan wedyn i Benegoes. Rhwng Penegoes a Glantwymyn rydych chi ar dir uchel unwaith eto er y byddwch yn disgyn am ychydig i bentref Abercegir rhwng y ddau.

Glantwymyn i Lanbrynmair – 6.8 milltir (10.8km)

Ar ôl i chi adael Glantwymyn cyn bo hir rydych chi yng nghanol tir bryniog y rhan hon o’r llwybr. Yn ddiweddarach mae rhan fach ar hyd ffordd goedwig ac yna mae gennych chi daith hir i lawr ‘cefn draig’ o fryn tuag at Lanbrynmair gyda golygfeydd gwych i bob cyfeiriad.

Llanbrynmair i Langadfan – 10.3 milltir (16.5km)

Mae’r llethr serth allan o Lanbrynmair yn werth chweil ar ôl i chi gyrraedd y tir uchel a gallu mwynhau’r golygfeydd i lawr i’r dyffryn islaw. Ar ôl darn o goedwig a ffordd hir trwy ddyffryn llydan byddwch chi’n dringo i gomin Pencoed. I fyny yma mae’n ddigon tebygol mai merlod fydd eich unig gwmni. Mae’n anodd credu bod pentref dymunol Llangadfan dim ond tri neu bedwar cilometr i ffwrdd.

Llangadfan i Lanwddyn – 6.5 milltir (10.5km)

Yn fuan ar ôl gadael Llangadfan fe ewch i mewn i blanhigfa enfawr coedwig Dyfnant. Mae’r goedwig yn darparu ar gyfer holl ddefnyddwyr cefn gwlad felly gwyliwch am yrwyr car a cheffyl ar ‘Lwybrau’r Enfys’. Pan fyddwch chi’n gadael y goedwig o’r diwedd byddwch chi’n dynesu at Lyn Efyrnwy. Byddwch wedi dechrau mynd i lawr y llethr pan gewch y cipolwg cyntaf ar yr argae bwaog mawr. Mae’r ardal yn boblogaidd iawn gyda thwristiaid felly mae yna ddigonedd o leoedd i fwyta ac yfed yma.

Llanwddyn i Ddolanog – 8.3 milltir (13.3km)

Mae’r rhan anoddaf o’r llwybr y tu ôl i chi yn awr, er bod yna lethrau i’w dringo o hyd.

Rhwng Llanwddyn a Dolanog rydych chi ar ffermdir ac mewn dyffrynnoedd llai serth. Mae’r daith ar hyd yr afon allan o Bont Llogel yn arbennig o ddymunol.

Dolanog i Feifod – 7 milltir (11km)

Mae’r rhan hon yn dechrau gyda thaith hyfryd ar hyd yr afon a thrwy goetir uwchben afon Efyrnwy. Gwyliwch am hen Dŷ Cwrdd y Crynwyr cwpl o gilometrau o Bontrobert – mae coed o’i amgylch felly mae’n hawdd ei fethu. Mae’r daith bleserus yn parhau’r holl ffordd i bentref Meifod.

Meifod i’r Trallwng – 10.8 milltir (17.5km)

Y daith ddymunol i fyny’r llethr o Feifod trwy goetir gallt Broniarth yw’r her gyntaf ar y rhan hon. Ar ôl hynny byddwch yn cerdded ar lonydd tawel a thir pori cyn dringo’r llethr olaf un i fyny’r Golfa. O’r piler triongli ar y copa mae golygfeydd i bob cyfeiriad sy’n wirioneddol syfrdanol. Ar ôl hynny byddwch chi’n cerdded i lawr y llethr yr holl ffordd i siopau, tafarnau a chaffis y Trallwng . Rydych chi wedi cerdded ar hyd Llwybr Glyndŵr.

 



 

Map Rhyngweithiol

Map Rhyngweithiol
Cynllunio’ch ymweliad defnyddio ein Map Rhyngweithiol. Ble i aros, diwrnodau gwych allan a digonedd i’w wneud!